Newyddion Cyngor Sir Caerfyrddin

11 Chw 2025

Cyngor Sir Caerfyrddin yn dathlu Wythnos Genedlaethol Prentisiaethau 2025

Carmarthenshire County Council celebrates National Apprenticeship Week 2025

Cyngor Sir Caerfyrddin yn dathlu Wythnos Genedlaethol Prentisiaethau 2025: Wythnos Genedlaethol Prentisiaethau - Apprenticeship Week 2025

Mae Cyngor Sir Caerfyrddin yn falch o ddathlu Wythnos Genedlaethol Prentisiaethau 2025, a gynhelir rhwng 10 ac 16 Chwefror.

Mae’r wythnos hon yn tynnu sylw at bwysigrwydd prentisiaethau o ran hybu economïau lleol, cefnogi busnesau, a helpu unigolion i ddatblygu sgiliau ar gyfer y gweithle sy’n datblygu. Mae prentisiaethau'n llwybr unigryw i gyflogaeth, gan gynnig profiad ymarferol, cymwysterau a gydnabyddir yn genedlaethol, a'r cyfle i ddysgu gwybodaeth hynod ddefnyddiol mewn maes penodol wrth ennill cyflog.

Mae Amy Seale ar hyn o bryd yn dilyn Prentisiaeth Cefnogi Busnes, gan weithio yn y tîm Lle, Seilwaith a Datblygu Economaidd. Wrth siarad am ei gwaith, dywedodd Amy:

“Mae fy swydd yn ymwneud â darparu cymorth gweinyddol a chyfathrebu trwy gysylltu â chyflogwyr, marchnata a pharatoi digwyddiadau. Y peth gorau yw cael y cyfle i ddyfnhau fy nealltwriaeth am gymorth busnes, a dysgu sgiliau proffesiynol a phersonol gwerthfawr o ddydd i ddydd.”

Dysgwch fwy am brofiad Amy yma.

Mae llwyddiant gyrfa tîm TG y Cyngor yn enghraifft arall sy’n cadarnhau effaith drawsnewidiol prentisiaethau. Dechreuodd llawer o weithwyr TG proffesiynol fel prentisiaid ac maent wedi symud ymlaen i rolau arwain a rheoli. Mae rhai hefyd wedi dilyn Prentisiaethau Gradd, gan ddatblygu eu sgiliau ymhellach wrth barhau i gefnogi gwasanaethau TG y Cyngor.

Trwy'r llwyddiannau hyn, nod y Cyngor yw dangos y cyfleoedd anhygoel y mae prentisiaethau'n eu cynnig ac ysbrydoli mwy o unigolion i'w hystyried fel llwybr at yrfa sy'n rhoi cymaint o fwynhad mewn gwasanaeth cyhoeddus.

Dywedodd y Cynghorydd Philip Hughes, Aelod Cabinet dros Drefniadaeth a'r Gweithlu:

“Mae prentisiaethau’n rhan allweddol o ddatblygiad ein gweithlu medrus, ac mae’n wirioneddol ysbrydoledig gweld sut y mae’r unigolion hyn wedi datblygu o fod yn brentisiaid i fod yn uwch-arweinwyr yn y Cyngor. Mae eu llwyddiannau yn cadarnhau pŵer dysgu ymarferol a’r cyfoeth o gyfleoedd sy’n bodoli yma yn ein sir.”

Ewch i wefan y Cyngor i ddysgu mwy am gynlluniau prentisiaeth y Cyngor - Amdani!

Gwybodaeth Gyswllt

Cyngor Sir Caerfyrddin | Carmarthenshire County Council
pressoffice@carmarthenshire.gov.uk