06 Rhag 2024
Mae Cyngor Sir Caerfyrddin wedi penderfynu cau ei gyfleusterau hamdden yfory, dydd Sadwrn 7 Rhagfyr 2024, yn dilyn y Rhybudd Coch am Wynt gan y Swyddfa Dywydd.
Mae'r Rhybudd Coch mewn grym rhwng 3am ac 11am ddydd Sadwrn, ac mae disgwyl cyfnod o wyntoedd cryf ofnadwy wrth i Storm Darragh symud ar draws Môr Iwerddon. Mae'n bosibl y bydd hyrddiadau o 90 milltir yr awr neu fwy ar fryniau ac arfordir gorllewin a de Cymru.
Gan roi'r pwys mwyaf ar ddiogelwch y cyhoedd, y cyngor a roddir gan Gyngor Sir Caerfyrddin yw peidio â theithio oni bai bod hynny'n gwbl hanfodol. Mae'r Awdurdod Lleol hefyd wedi penderfynu cau i'r cyhoedd y safleoedd canlynol (sy'n cael eu rhedeg gan y Cyngor) drwy'r dydd yfory, dydd Sadwrn 7 Rhagfyr.
Bydd pob safle yn aros ar agor tan yr amser cau arferol heddiw, dydd Gwener 6 Rhagfyr.
Ni fydd trafnidiaeth gyhoeddus bore fory tan 2pm
Hefyd bydd criwiau ac adnoddau ychwanegol wrth gefn gan y Cyngor Sir dros y penwythnos, a fydd yn barod i ymateb i'r amodau wrth iddynt newid.
Dywedodd y Cynghorydd Edward Thomas, yr Aelod Cabinet dros Wasanaethau Trafnidiaeth, Gwastraff a Seilwaith:
“Mae Rhybuddion Coch yn brin iawn a dyna pam rydym ni'n cau ein canolfannau hamdden a gwastraff ddydd Sadwrn.
“Fy neges i drigolion y sir ac i unrhyw ymwelwyr yw peidio â theithio heblaw bod gwir angen, a da chi, cadwch yn ddiogel.”
Sut i roi gwybod am broblemau'r tu allan i oriau
Rhoi gwybod am atgyweiriadau ar gyfer tai Cyngor
Rhowch wybod am waith atgyweirio brys/mawr drwy ffonio 0300 333 2222.
Bydd Delta Wellbeing yn cymryd y galwadau hyn y tu allan i oriau.
Rydym yn disgwyl nifer fawr o alwadau brys dros y penwythnos. Rhowch wybod i ni ar-lein am fân atgyweiriadau.
Cofiwch taw ar gyfer argyfyngau y tu allan i oriau yn unig mae'r uchod, yn ystod oriau gwaith normal dylech ddilyn proses arferol y Cyngor ar gyfer rhoi gwybod am bryderon.
Rhowch wybod am goed sydd wedi cwympo ar wefan y Cyngor Rhoi gwybod am goed sy'n achosi perygl / sydd wedi cwympo
Llifogydd
Gallwch gael diweddariadau o wefan Cyfoeth Naturiol Cymru, sy'n cael ei diweddaru bob 15 munud.
Os ydych yn pryderu am lifogydd ffoniwch y Llinell Llifogydd ar 0345 988 1188.
I gael rhagor o wybodaeth am sut i roi gwybod am broblemau, ewch i wefan Cyngor Sir Caerfyrddin
Cyngor Sir Caerfyrddin | Carmarthenshire County Council
pressoffice@carmarthenshire.gov.uk