10 Rhag 2024
Mae Cyngor Sir Caerfyrddin yn annog rhieni a gwarcheidwaid disgyblion a fydd yn trosglwyddo o'r ysgol gynradd i'r ysgol uwchradd ym mis Medi 2025 i gyflwyno eu ceisiadau am gludiant ysgol cyn gynted â phosibl os ydynt yn credu eu bod yn bodloni'r meini prawf cymhwysedd.
Mae angen cyflwyno ceisiadau am gludiant ysgol ar gyfer disgyblion a fydd yn mynychu ysgolion uwchradd gan gynnwys y rhai y tu allan i Sir Gaerfyrddin, mewn siroedd cyfagos. Rhaid cyflwyno'r ceisiadau hyn i Gyngor Sir Caerfyrddin erbyn 31 Rhagfyr 2024 er mwyn sicrhau y gellir gwneud trefniadau cludiant mewn pryd ar gyfer y flwyddyn ysgol newydd. Rhaid i ymgeiswyr hefyd fyw yn Sir Gaerfyrddin.
Mae'n arbennig o bwysig i'r rhai sy'n bwriadu mynychu ysgolion mewn siroedd eraill wneud cais yn gynnar. Bydd cyflwyno ceisiadau cyn y dyddiad cau yn helpu i osgoi oedi yn y ddarpariaeth gludiant ac yn sicrhau trosglwyddiad esmwyth i'r ysgol uwchradd.
Gall rhieni a gwarcheidwaid ymweld â thudalen benodol Cyngor Sir Caerfyrddin am gludiant ysgol i gael manylion llawn am gymhwysedd a'r broses ymgeisio. Mae'r dudalen hefyd yn darparu mynediad i'r ffurflen gais, y gellir ei chwblhau ar-lein.
Dywedodd y Cynghorydd Edward Thomas, yr Aelod Cabinet dros Wasanaethau Trafnidiaeth, Gwastraff a Seilwaith:
"Mae sicrhau bod gan ddisgyblion fynediad at gludiant dibynadwy yn rhan hanfodol o'r broses drosglwyddo i'r ysgol uwchradd. Rydym yn annog rhieni a gwarcheidwaid disgyblion sy'n trosglwyddo i'r ysgol uwchradd ym mis Medi 2025 i wneud cais am gludiant ysgol cyn gynted â phosibl, yn enwedig y rhai sy'n mynychu ysgolion y tu allan i Sir Gaerfyrddin."
I wneud cais neu am fwy o wybodaeth, ewch i: Cludiant Ysgol
Cyngor Sir Caerfyrddin | Carmarthenshire County Council
pressoffice@carmarthenshire.gov.uk