- Cwcis sydd wir eu hangen
Cwcis sydd wir eu hangen
Mae rhai o’n cwcis yn hanfodol ac ni fydd rhannau o’r safle’n gweithio hebddynt. Mae hyn yn cynnwys cofnodi eich dewisiadau cadw cwcis.
04 Rhag 2024
Mae Grŵp Rheilffordd Fach Nantwich wedi gallu cwblhau gwaith yn ymestyn trac diolch i gefnogaeth gan Trafnidiaeth Cymru (TrC).
Trwy ei rhaglen effaith gynaliadwy, mae TrC yn gweithio mewn partneriaeth â phrosiectau cymunedol ledled Cymru a'r Gororau i gefnogi mentrau sydd o fudd i gymunedau lleol gan gefnogi eu hymdrechion i gefnogi eraill.
Dywedodd Eddie George, un o Gyfeillion Blwch Signalau Nantwich, sy'n rhedeg y Rheilffordd Fach yno: ‘Rydym yn ddiolchgar iawn i TrC am eu cefnogaeth. Mae wedi ein galluogi i gwblhau y cam cyntaf o'r gwaith sef ymestyn y trac. Mae hefyd wedi ein galluogi i ddechrau ar y gwaith o ddylunio cromlin y trac er mwyn gallu ymuno'r ddau drac presennol.
Lleolir y Rheilffordd Fach yn Eglwys Fethodistaidd Nantwich ac fe ofalir amdani gan aelodau o’r eglwys ynghyd â Chyfeillion Blwch Signalau Nantwich Cyf. Mae'r eglwys hefyd yn rhedeg clwb plant o'r enw ‘Drop N Shop'. Yn sgil y clwb hwn y daeth y rheilffordd i fodolaeth, yn rhedeg trên stêm am ddim sydd, dros y ddegawd ddiwethaf, wedi codi dros £20,000 i elusennau plant.
"Rydym yn gobeithio cynnal mwy o weithgareddau fydd yn cynnwys adeiladu model o hen Flwch Signalau Nantwich gyda chymorth myfyrwyr UTC Crewe. Mae'r rhai myfyrwyr yno eisoes wedi ein helpu i adeiladu'r trac. Rydym yn ddiolchgar iawn i'n holl noddwyr a chefnogwyr am eu cymorth hael. Byddai’n amhosibl parhau hebddynt," ychwanegodd Eddie.
Dywedodd Dr Louise Moon, Rheolwr Treftadaeth ac Effaith Gynaliadwy TrC: “Roeddwn wrth fy modd yngallu gweld drosof fy hun y gwahaniaeth y mae cefnogaeth TrC wedi'i wneud i brosiect sy'n ganolog i gymuned Nantwich. Mae'n codi arian hanfodol i elusennau plant ac mae gweld sefydliadau yn dod ynghyd i gefnogi prosiectau o'r fath yn rhagorol’
Mae'r grŵp hefyd wedi cael ei gefnogi gan fyfyrwyr o goleg Peirianneg a Dylunio UTC Crewe sydd eisoes wedi helpu i adeiladu'r trac.
Dywedodd Steven Fergusson, Dirprwy Bennaeth Crewe UTC: “Mae rhai o’n myfyrwyr wedi cael pleser mawr yn gweithio ar y prosiect hwn, ac mae eu galluogi i gwblhau tasgau peirianneg a dylunio go iawn yn rhan bwysig o'n cwricwlwm sef gweithio gyda phartneriaid o fewn y diwydiant a'n cymunedau. Mae hyn yn rhoi profiad gwaith go iawn i fyfyrwyr gyda chyflogwyr, yn rhoi hwb i'w CV, ac yn rhoi profiad go iawn o weithio ym maes peirianneg. Mae hyn yn eu helpu i fod yn ‘barod i wynebu'r diwydiant' pan fyddant yn gadael y coleg.
Nodiadau i olygyddion
Llun: O'r chwith i'r dde - Steven Fergusson, Dirprwy Bennaeth Crewe UTC, Dr Louise Moon, Rheolwr Treftadaeth ac Effaith Gynaliadwy TrC, Paul Durant ac Eddie George dau o Gyfeillion Blwch Signalau Nantwich.
Nodiadau i Olygyddion:
Mae Drop N Shop ar gyfer plant 4 - 11 oed. Fe'i cynhelir ar foreau Sadwrn (rhwng 10am a hanner dydd) yn Eglwys Fethodistaidd Nantwich.