10 Rhag 2024
Mae Ceir Cefn Gwlad, cynllun rhannu ceir yn y gymuned yn Sir Gaerfyrddin, yn apelio am wirfoddolwyr newydd i helpu trigolion i gael mynediad i deithiau lleol hanfodol. Mae'r gwasanaeth yn gweithredu fel 'rhwyd ddiogelwch' o ran trafnidiaeth gyhoeddus, gan gynnig cysylltiadau hanfodol â gwasanaethau bysiau a threnau neu ddarparu trafnidiaeth o ddrws i ddrws i unigolion heb unrhyw opsiynau rhesymol eraill.
Mae Ceir Cefn Gwlad yn chwarae rhan hanfodol wrth sicrhau bod pawb yn Sir Gaerfyrddin yn cael mynediad i wasanaethau hanfodol. I sicrhau llwyddiant parhaus Ceir Cefn Gwlad, mae'r cynllun yn chwilio am fwy o wirfoddolwyr i ymuno â'r tîm. Mae angen gyrwyr gwirfoddol i ddarparu trafnidiaeth i bobl, ond gall y rhai nad ydynt yn gyrru chwarae rhan hanfodol o hyd drwy helpu i drefnu teithiau.
Pwysleisiodd llefarydd ar ran y Gwasanaeth Gwirfoddol Brenhinol (RVS) effaith y cynllun:
"Mae teithwyr fel arfer yn dweud wrtha i fod y gwasanaeth yn wych a dydyn nhw wir ddim yn gwybod beth fydden nhw'n ei wneud hebddo.
Rwy'n gwirfoddoli i Ceir Cefn Gwlad oherwydd rwy'n gwybod mor anodd yw hi i'n teithwyr fynd o A i B drwy drafnidiaeth gyhoeddus neu dacsis. Mae rhai yn unig iawn ac rydyn ni'n mwynhau sgwrs hyfryd yn ystod ein taith. Byddwn yn annog unrhyw un sydd ag ychydig o oriau i'w sbario i gofrestru; mae'n beth mor werthfawr a gwerth chweil i'w wneud."
Tynnodd y Cynghorydd Edward Thomas, Aelod Cabinet dros Wasanaethau Trafnidiaeth, Gwastraff a Seilwaith, sylw pellach at bwysigrwydd y cynllun a'r angen dybryd am fwy o wirfoddolwyr:
"Mae Ceir Cefn Gwlad yn achubiaeth i lawer o bobl sy'n byw yn Sir Gaerfyrddin, gan sicrhau eu bod yn gallu cael mynediad i wasanaethau hanfodol pan nad oes opsiynau trafnidiaeth eraill ar gael. Rydyn ni'n hynod ddiolchgar i'n gwirfoddolwyr presennol am eu hymroddiad, ond mae angen mwy o bobl arnom ar frys i gamu ymlaen i gadw'r gwasanaeth hanfodol hwn i fynd. Mae gwirfoddoli gyda Ceir Cefn Gwlad yn ffordd werth chweil o wneud gwahaniaeth gwirioneddol yn eich cymuned, ac rwy'n annog unrhyw un sy'n gallu rhoi ychydig o amser i gymryd rhan."
Mae gwirfoddoli yn ffordd werth chweil o wneud gwahaniaeth i fywydau pobl yn y gymuned leol, ac anogir unrhyw un sydd â diddordeb i gysylltu â'r Gwasanaeth Gwirfoddol Brenhinol drwy ffonio 01267 234567 i ddysgu mwy.
Cyngor Sir Caerfyrddin | Carmarthenshire County Council
pressoffice@carmarthenshire.gov.uk