02 Rhag 2024
Wrth iddi nosi'n gynt dros y gaeaf, mae'n bwysicach nag erioed dod â phobl at ei gilydd a rhannu hwyl yr ŵyl. Mae rhaglen Cymunedau Cynaliadwy Cronfa Ffyniant Gyffredin Llywodraeth y DU wedi rhoi cyllid i sawl prosiect i ddatblygu eu cyfleusterau cymunedol lleol, yn barod ar gyfer cynnal eu digwyddiadau y Nadolig hwn.
Mae'r gronfa yn buddsoddi mewn cyfleusterau sy'n amrywio o ganolfannau cymunedol i neuaddau marchnad. Mae Canolfan Gymunedol newydd sbon yn yr Hendy ac mae gwaith adnewyddu mawr wedi cael ei wneud yn Neuadd y Farchnad Llanboidy gan wneud y lleoliad yn gwbl hygyrch. Mae prosiectau llai wedi cael offer newydd i'w galluogi i gynnal digwyddiadau Nadolig.
Mae Cyngor Cymuned Llanedi wedi bod yn gweithio'n galed dros y blynyddoedd diwethaf i greu cyfleuster cymunedol anhygoel newydd, sef Canolfan Gwili a fydd yn gwasanaethu pobl Tŷ-croes, Llanedi, yr Hendy a Fforest. Mae'r ganolfan gymunedol newydd yn cynnwys caffi newydd, a neuadd weithgareddau helaeth, gyda goleuadau a system sain uwch, sy'n ei gwneud yn lle delfrydol ar gyfer amrywiaeth o ddigwyddiadau, o ffeiriau Nadolig i gyngherddau.
I gael rhagor o wybodaeth: https://www.llanedi-cc.gov.wales/cy/
Dywedodd y Cynghorydd Hazel Evans, Aelod Cabinet Cyngor Sir Caerfyrddin dros Adfywio, Diwylliant, Hamdden a Thwristiaeth:
Mae'n wych gweld bod Cronfa Ffyniant Gyffredin Llywodraeth y DU yn galluogi cymunedau i adnewyddu cyfleusterau ledled y sir mewn pryd ar gyfer y Nadolig. Mae'n bwysig bod ein hardal yn cymryd rhan mewn gweithgareddau cymdeithasol drwy gydol cyfnod yr ŵyl fel bod unigolion yn teimlo eu bod yn rhan o gymuned ehangach.
Mae nifer o ddigwyddiadau Nadolig a marchnadoedd crefftau ledled Sir Gaerfyrddin ym mis Rhagfyr. I gael gwybod beth sy'n digwydd yn eich ardal chi adeg y Nadolig, ewch i Darganfod Sir Gâr
I ledaenu'r llawenydd eleni a chymryd rhan yn eich digwyddiadau cymunedol lleol, beth am edrych ar rai o'r prosiectau eraill a gefnogir gan y gronfa isod?
Cyngor Sir Caerfyrddin | Carmarthenshire County Council
pressoffice@carmarthenshire.gov.uk