- Cwcis sydd wir eu hangen
Cwcis sydd wir eu hangen
Mae rhai o’n cwcis yn hanfodol ac ni fydd rhannau o’r safle’n gweithio hebddynt. Mae hyn yn cynnwys cofnodi eich dewisiadau cadw cwcis.
21 Tach 2024
Mae Trafnidiaeth Cymru ymhlith grŵp blaenllaw o sefydliadau sy'n mynd y tu hwnt i’r meincnod o gael 5% o'u gweithlu wedi cofrestru mewn rhaglenni "gweithio a dysgu."
Mae'r gydnabyddiaeth yn amlygu ymrwymiad TrC i rymuso gweithwyr drwy fentrau "gweithio a dysgu" fel Prentisiaethau, Cynlluniau i Raddedigion, a Lleoliadau Gwaith i Fyfyrwyr a Noddir.
Mae'r Clwb 5% yn sefydliad blaenllaw i gyflogwyr ag aelodaeth sydd wedi ymrwymo i greu llwybrau er mwyn i hybu twf proffesiynol a meithrin gweithleoedd mwy cynhwysol, amrywiol a hygyrch.
Er mwyn ennill Aelodaeth Aur, mae sefydliadau'n mynd drwy broses Archwilio Cyflogwyr drylwyr sy'n asesu eu hymdrechion yn fanwl o ran eu rhaglenni "gweithio a dysgu," eu dyheadau ar gyfer y dyfodol a’u hymroddiad i symudedd cymdeithasol, amrywiaeth a chynhwysiant.
Roedd TrC ymhlith grŵp o 119 o gyflogwyr a oedd yn bodloni'r safonau trylwyr hyn.
Dywedodd llefarydd ar ran Trafnidiaeth Cymru:
"Pleser o’r mwyaf yw bod yn Aelod Aur o'r Clwb 5% am yr ail flwyddyn yn olynol.
"Mae'r gydnabyddiaeth hon yn dyst o'n hymrwymiad i greu llwybrau ar gyfer twf proffesiynol, gan ddarparu’r sgiliau a'r hyder sydd eu hangen ar ein staff i ffynnu.
"Rydym yn edrych ymlaen at adeiladu ar y llwyddiant hwn yn y blynyddoedd i ddod."
Dywedodd Mark Cameron OBE, Prif Weithredwr y Clwb 5%:
"Rydym yn hynod falch o'r cyflogwyr rhagorol, fel Trafnidiaeth Cymru, sydd wedi mynd y tu hwnt i’r gofyn er mwyn buddsoddi yn nyfodol eu gweithlu drwy amrywiaeth eang o fentrau ‘gweithio a dysgu'.
“Mae eu hymroddiad, yn enwedig yn ystod y cyfnod heriol hwn, yn haeddu cael ei ddathlu. Drwy ennill aelodaeth Aur, mae Trafnidiaeth Cymru wedi dangos ymrwymiad eithriadol i siapio sgiliau’r dyfodol, gan gyfrannu nid yn unig at eu busnes ond at yr economi ehangach."
Mae TrC yn annog unrhyw un sydd â diddordeb yn yr amrywiaeth eang o gyfleoedd sydd ar gael i fynd i’r wefan https://trc.cymru/gwybodaeth/ceiswyr-swyddi/ein-swyddi-gwag
I gael rhagor o wybodaeth am y Clwb 5%, ewch i https://www.5percentclub.org.uk/
Nodiadau i olygyddion
- Mae'r Clwb 5% yn gweithio gyda chyflogwyr y DU a dylanwadwyr allweddol i’w hysbrydoli i gymryd camau cadarnhaol er mwyn cynyddu cyfleoedd dysgu yn y gweithle yn ogystal â chyfleoedd dysgu hygyrch, gan ganolbwyntio'n bennaf ar nifer y prentisiaid, myfyrwyr noddedig a graddedigion a gyflogir. Nod y Clwb 5% yw cynyddu rhagolygon o ran cyflogaeth a gyrfaoedd i bobl ifanc heddiw a darparu’r gweithlu medrus sydd ei angen ar y DU i ddiogelu economi Prydain. Lansiwyd y Clwb 5% yn 2013.
- Mae aelodau'n llofnodi siarter y Clwb 5%. Fel aelod o'r Clwb 5%, mae cyflogwyr yn datgan eu bod: Wedi ymrwymo i helpu agenda twf y DU ac yn cydnabod bod datblygu pobl yn hanfodol bwysig, o safbwynt busnes ac o safbwynt cymdeithasol; Chwarae eu rhan wrth fynd i'r afael â diweithdra ymhlith pobl ifanc a phrinder sgiliau; Addo i weithio tuag at gael o leiaf 5% o'u gweithlu yn y DU wedi cofrestru ar brentisiaeth ffurfiol, yn fyfyrwyr noddedig a/neu ar gynlluniau datblygu graddedigion o fewn pum mlynedd; Mesur ac adrodd ar eu cynnydd yn flynyddol yn erbyn y metrig uchod yn adran Cyfrifoldeb Cymdeithasol Corfforaethol eu Hadroddiad Blynyddol a'r Cyfrifon neu ddogfen gyfwerth; Wedi ymrwymo i annog cyflogwyr eraill i gymryd rhan yn yr ymgyrch.
- Mae aelodaeth y Clwb 5% yn cynnwys mwy na 1,100 o sefydliadau o bob math o sectorau gwahanol a chwmnïau sy’n amrywiol o ran maint, gan gynnwys corfforaethau mawr yn ogystal â busnesau bach a chanolig. Mae cyfanswm y gweithwyr a gynrychiolir bellach yn fwy na 1.9m, gyda thua 108,00 yn gwneud cynlluniau "gweithio a dysgu."