- Cwcis sydd wir eu hangen
Cwcis sydd wir eu hangen
Mae rhai o’n cwcis yn hanfodol ac ni fydd rhannau o’r safle’n gweithio hebddynt. Mae hyn yn cynnwys cofnodi eich dewisiadau cadw cwcis.
25 Tach 2024
Mae TrC Ffeibr, rhwydwaith cyfanwerthol ffeibr llawn o'r radd flaenaf yn lansio heddiw, gan gynnig cyfle i gwmnïau ddarparu cysylltedd rhyngrwyd cyflym i gymunedau cymoedd De Cymru.
Wrth adeiladu Metro De Cymru a gwneud newidiadau enfawr i'r seilwaith er mwyn trydaneiddio'r rheilffordd yng nghymoedd De Cymru, manteisiodd Trafnidiaeth Cymru ar y cyfle i osod rhwydwaith ffeibr llawn ar yr un pryd.
Yn eiddo i Trafnidiaeth Cymru, mae TrC Ffeibr yn lansio heddiw ac mae'n cynnig rhwydwaith i Ddarparwyr Gwasanaethau Rhyngrwyd a chwmnïau telathrebu sy'n barod i gael ei gysylltu ag ef, fel y gallant gynnig gwasanaethau rhyngrwyd cyflym i gwsmeriaid.
Dywedodd Alexia Course, Prif Swyddog Masnachol TrC:
"Rydym yn hynod falch ac yn gyffrous i lansio TrC Ffeibr heddiw, i ddarparu rhwydwaith cyflym o'r radd flaenaf i gwmnïau ei ddefnyddio a'i werthu yng nghymunedau'r cymoedd.
"Rydym wedi bod yn gwneud gwaith isadeiledd enfawr yn y cymoedd, yn trydaneiddio'r rheilffordd fel rhan o Fetro De Cymru ac roedd hyn yn gyfle i ni hefyd adeiladu'r seilwaith ar gyfer rhwydwaith craidd cyflym.
"Mae prosiect Metro De Cymru yn ymwneud â chysylltu pobl yn gorfforol tra bod TrC Ffeibr yn ymwneud â chysylltu pobl yn y byd digidol. Yn TrC, rydym yn cyd-fynd yn llwyr â Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) ac mae'r is-fusnes newydd hwn yn atgyfnerthu ein hymrwymiad i wella bywydau pobl yng Nghymru."
Dywedodd Guy Reiffer, Rheolwr Gyfarwyddwr TrC Ffeibr:
"Dyma’r prosiect cyntaf o’i fath yn y diwydiant ac yn y DU – prosiect seilwaith rheilffyrdd sydd wedi arallgyfeirio a defnyddio’r hyn sydd eisoes wedi’i adeiladu i osod rhwydwaith ffeibr llawn sy’n gyflym ac sy’n gallu darparu’r rhyngrwyd.
"Rydyn ni'n gyffrous i lansio heddiw ac rydyn ni'n edrych ymlaen at weithio gyda chwmnïau telathrebu i ddarparu rhyngrwyd ffeibr llawn â lled band mawr i gymunedau sy'n anoddach eu cyrraedd.
"I bobl sy'n byw yn y cymoedd, bydd rhyngrwyd cyflym a alluogir gan ein cynnig ffeibr craidd yn agor cyfleoedd o ran ffordd o fyw a busnes." Ewch i'n gwefan am ragor o wybodaeth – https://ffeibr.cymru/
Nodiadau i olygyddion
Mae TrC Ffeibr yn fenter hyd braich newydd gan Trafnidiaeth Cymru.
Mae'r lansiad heddiw yn helpu i atgyfnerthu ymrwymiad Cymru i degwch — man lle gall unrhyw un gael mynediad at ryngrwyd o safon wych ar gyfer dibenion gwaith, hamdden a dysgu — er mwyn cysylltu’n hawdd ag eraill, beth bynnag fo'u hanghenion.
Y cyntaf o’i fath yn y Diwydiant a'r DU – mae TrC wedi creu eu his-fusnes masnachol hyd braich eu hunain i yrru'r cyfle hwn ymlaen a gwireddu'r manteision posibl i TrC ac economi Cymru.
Bydd ffurfio TrC Ffeibr yn galluogi buddsoddiad sylweddol o'r tu allan i'r rhanbarth gan y bydd busnesau nawr yn gallu mwynhau cysylltedd digidol lled band uchel mwyaf blaenllaw’r byd - gan ddenu popeth o ganolfannau data, y sector deallusrwydd artiffisial, gweithgynhyrchu, cynhyrchu ffilm a theledu ar raddfa fawr a diwydiannau cenhedlaeth nesaf eraill.
Dylai hefyd gefnogi’r nod o leihau ardaloedd o dlodi digidol yn Ne Cymru a chyfrannu at ddatblygiad economaidd rhanbarthol.