- Cwcis sydd wir eu hangen
Cwcis sydd wir eu hangen
Mae rhai o’n cwcis yn hanfodol ac ni fydd rhannau o’r safle’n gweithio hebddynt. Mae hyn yn cynnwys cofnodi eich dewisiadau cadw cwcis.
11 Medi 2024
Mae Trafnidiaeth Cymru wedi dewis y cwmni byd-eang Hitachi er mwyn helpu i drawsnewid trafnidiaeth gyhoeddus yn ddigidol yng Nghymru, gan ei gwneud yn haws i gwsmeriaid gynllunio, archebu a thalu am wahanol ddulliau teithio.
Dros y pum mlynedd nesaf, bydd Hitachi yn darparu system archebu ddigidol aml-ddull a fydd yn cynnwys pob dull o drafnidiaeth gyhoeddus, a fydd ar gael i gwsmeriaid trwy ap syml sy'n hawdd ei ddefnyddio.
Bydd gwasanaethau rheilffyrdd, bysiau lleol, Fflecsi a TrawsCymru i gyd ar gael er mwyn cynllunio ac archebu teithiau arnynt drwy un datrysiad gweinyddo, digidol gan Hitachi. Bydd hefyd yn cynnal dulliau micro-symudedd eraill (beiciau, e-sgwteri) ac atebion symudedd sy'n seiliedig ar alw, sydd eisoes yn cael eu defnyddio yng Nghymru.
Mae Hitachi wedi defnyddio'r dechnoleg ‘Symudedd fel Gwasanaeth’ (Mobility as a Service - MaaS) yn Japan o'r blaen, yn fwyaf nodedig ar Fetro Tokyo.
Bydd Hitachi Rail yn defnyddio’r wybodaeth a'r profiad sydd ganddynt o gysylltu miliynau o deithiau digidol bob dydd yn Japan er mwyn darparu ateb pwrpasol ac unigryw i Gymru.
Dywedodd Marie Daly, Prif Swyddog Cwsmeriaid a Diwylliant TrC:
"Yn TrC rydym o hyd yn ceisio gwella profiad y cwsmer ac wrth wneud hyn rydym am ddenu mwy o bobl i'n rhwydwaith trafnidiaeth gyhoeddus.
"Bydd y prosiect cyffrous ac uchelgeisiol hwn yn darparu ateb digidol a fydd yn helpu ein cwsmeriaid i gynllunio teithiau pwynt i bwynt gan ddefnyddio gwahanol ddulliau trafnidiaeth gyhoeddus. Mae'r cyfan yn rhan o'n cynlluniau a'n dyheadau tymor hwy i ddarparu un rhwydwaith, un amserlen ac un tocyn i'n cwsmeriaid.
"Rydym yn edrych ymlaen at weithio gyda Hitachi a dod â'r arbenigedd byd-eang hwn i drafnidiaeth gyhoeddus yng Nghymru."
Meddai Justin Southcombe, Cyfarwyddwr Masnachol Hitachi Rail: "Bydd y bartneriaeth strategol hon gyda TrC yn elwa o hyd a lled yr arbenigedd ym meysydd symudedd, digidol a gwyddoniaeth ymddygiadol sy'n bodoli yng Ngrŵp Hitachi.
Gall Hitachi gyfuno'r dechnoleg ddigidol ddiweddaraf gyda’r wybodaeth drylwyr sydd ganddynt o ran rheoli rhai o systemau trafnidiaeth gyhoeddus mwyaf poblogaidd y byd, er mwyn cysylltu trafnidiaeth gyhoeddus yn well.
Drwy wneud trafnidiaeth gyhoeddus yn fwy hygyrch ac yn haws ei defnyddio, gall Hitachi helpu i gynyddu teithio cynaliadwy yng Nghymru."