- Cwcis sydd wir eu hangen
Cwcis sydd wir eu hangen
Mae rhai o’n cwcis yn hanfodol ac ni fydd rhannau o’r safle’n gweithio hebddynt. Mae hyn yn cynnwys cofnodi eich dewisiadau cadw cwcis.
24 Medi 2024
Mae Trafnidiaeth Cymru (TrC) wedi cyhoeddi ei gynllun gwrth-hiliaeth sy’n nodi sut y bydd y sefydliad yn mynd i’r afael â rhwystrau i gydraddoldeb hiliol o fewn y sefydliad.
Mae gwrth-hiliaeth yn ffordd o herio anghyfartaledd hiliol sy'n cydnabod nad yw hiliaeth yn ymwneud ag ymddygiad unigolion yn unig, ond yn hytrach ag atal patrymau negyddol o wahaniaethu rhag cael eu hatgyfnerthu gan weithredoedd sefydliadau.
Ers 2022, pan lansiwyd Cynllun Gweithredu Cymru Wrth-Hiliol Llywodraeth Cymru, mae Trafnidiaeth Cymru wedi cynnal digwyddiadau a hyfforddiant rheolaidd i’w gydweithwyr, ei Fwrdd a’i Arweinwyr Gweithredol gyda Race Council Cymru a Diversify World. Mae’r sefydliad wedi penodi 15 o lysgenhadon Tegwch, Cynhwysiant a Pharch yn y gweithle ac wedi annog cydweithwyr i lofnodi Addewid Dim Hiliaeth Cymru.
Mae Cynllun Gwrth-hiliaeth TrC yn gosod strategaeth gynhwysfawr sydd wedi’i datblygu gydag adborth gan Race Council Cymru, i sicrhau bod TrC yn chwarae rhan weithredol mewn atal hiliaeth rhag digwydd, mewn bywyd bob dydd, fel cwsmer, fel aelod o staff neu rhywun sydd isio ymuno.
Mae mesurau fel:
- gweithio gydag ysgolion i gynyddu'r nifer sy'n manteisio ar gyfleoedd prentisiaeth mewn cymunedau lleiafrifoedd ethnig,
- Rhoi mwy o amser ac adnoddau i weithwyr fynychu Grwpiau Adnoddau Gweithwyr i wella cydraddoldeb yn y gwaith,
- Datblygu adnoddau addysgol, erthyglau a phodlediadau newydd i alluogi cydweithwyr i addysgu eu hunain am anghyfiawnder hiliol, rhagfarn ymhlyg a realiti hanesyddol.
Drwy roi’r mesurau a nodir yn y strategaeth ar waith, nod Trafnidiaeth Cymru yw deall yn well sut mae hiliaeth yn rhan o’r sefydliad, sut y gallant barhau i’w herio a sut i greu sefydliad sy’n cynrychioli’r cymunedau y mae’n eu gwasanaethu.