English icon English
net check-2

Pysgotwyr anghyfreithlon mewn dyfroedd dyfnion

Fishy business: illegal fishers caught hook, line and sinker

Mae pum cwmni pysgota o Wlad Belg a chapteiniaid y llongau wedi cael eu herlyn yn llwyddiannus am dorri deddfwriaeth pysgodfeydd yn ddifrifol yn nyfroedd Cymru, gan nodi'r llwyddiant diweddaraf wrth i Lywodraeth Cymru fynd i'r afael â gweithgarwch pysgota anghyfreithlon.

Mae'r erlyniadau'n ymwneud â cham-adrodd am ddalfeydd lleden chwithig rhwng ardaloedd cwota yn ystod 2022 a 2023. Mae'r achosion hyn yn rhan o ymgyrch orfodi ehangach, gyda'r Cwnsler Cyffredinol yn awdurdodi wyth erlyniad.

Dywedodd y Dirprwy Brif Weinidog sydd â chyfrifoldeb dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig, Huw Irranca-Davies:
"Mae ein moroedd yn hanfodol i gymunedau arfordirol Cymru, gan gefnogi pysgota masnachol a thwristiaeth. Mae'r erlyniadau hyn yn anfon neges glir na fyddwn yn goddef gweithgarwch pysgota anghyfreithlon sy'n bygwth cynaliadwyedd ein hadnoddau morol ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol."

Ychwanegodd y Cwnsler Cyffredinol, Julie James: "Mae'r erlyniadau llwyddiannus hyn yn dangos ein hymrwymiad i ddiogelu dyfroedd Cymru. Dylai unrhyw un sy'n torri cyfreithiau pysgota - boed ar y môr neu mewn ardaloedd rhynglanwol - ddisgwyl wynebu erlyniad, a chosbau difrifol, ac o bosib."