Meddygon teulu i chwarae rhan hanfodol er mwyn trawsnewid gwasanaeth iechyd Cymru
GPs to play crucial role in transforming Wales’ health service
Bydd cryfhau rôl meddygon teulu yng Nghymru yn hollbwysig er mwyn gwella gofal iechyd cleifion a mynd i'r afael â rhestrau aros y GIG.
Wrth siarad heddiw (dydd Sadwrn 8 Mawrth) yng Nghynhadledd Pwyllgorau Meddygol Lleol Cymru, bydd yr Ysgrifennydd Iechyd, Jeremy Miles yn datgan bod rhaid bwrw ati eleni i drawsnewid y ffordd y mae gwasanaethau iechyd yn cael eu darparu er mwyn cadw gofal yn agosach i'r cartref.
Bydd gan feddygon teulu rôl fwy amlwg o ran rheoli rhestrau aros er mwyn lleihau oedi a gwella llif cleifion drwy'r system iechyd, gan gynnwys cynyddu profion diagnostig yn y gymuned.
Bydd menter newydd i helpu meddygon teulu i ddarparu parhad gofal yn dechrau drwy nodi'r cleifion mwyaf agored i niwed a fyddai'n elwa ar weld yr un gweithiwr iechyd proffesiynol ym mhob apwyntiad. Bydd hyn yn helpu i wella canlyniadau pobl â chyflyrau cronig ac yn helpu i gadw pobl yn iach gartref.
Wrth i ragor o brosesau diagnostig a gweithdrefnau eraill symud o ysbytai i leoliadau cymunedol, bydd yr Ysgrifennydd Iechyd yn cydnabod y bydd angen i adnoddau symud hefyd, ac y bydd rhaid i fyrddau iechyd ddatgan a chynyddu gwariant gofal sylfaenol i gynnal y newid hwn.
Dywedodd yr Ysgrifennydd Iechyd, Jeremy Miles: "Mae'n bwysig iawn ein bod yn gweithio gyda'n gilydd i fynd i'r afael â'r pwysau yn ein Gwasanaeth Iechyd drwy wella'r ffordd y mae cleifion yn cael gafael ar y gofal sydd ei angen arnyn nhw, a gwella'r llif drwy ein system.
"Mae rôl meddygon teulu yn hanfodol i gydbwyso'r system unwaith eto.
"Ni fydd hyn yn golygu bod gwasanaethau meddygol cyffredinol yn gwneud mwy a mwy, ond mae'n golygu creu ffordd o gomisiynu mwy o wasanaethau mewn lleoliadau gofal sylfaenol, yn ein cymunedau lleol, ond ar raddfa sy'n hyfyw ac yn gynaliadwy.
"Mae meddygon teulu yn chwarae rhan hanfodol yn eu cymunedau. Rwyf eisiau gweithio gyda nhw i ddatblygu cynnig gofal sylfaenol a chymunedol sy'n gwerthfawrogi sgiliau ac arbenigedd meddygaeth gyffredinol, yn rhoi'r adnoddau i feddygon teulu ffynnu ac yn darparu'r gofal sydd ei angen ar gleifion yn agosach i'r cartref."