English icon English
Tenby Harbour - Harbwr Dinbych-y-pysgod cropped

Gwaith carthu yn harbwr Dinbych-y-pysgod

Dredging work takes place at Tenby harbour

Gofynnir i ddefnyddwyr Traeth yr Harbwr a Thraeth y Gogledd yn Ninbych-y-pysgod fod yn ymwybodol o beiriannau trwm yn symud wrth i waith carthu gael ei wneud.

Bydd tywod yn cael ei dynnu o geg yr Harbwr a'i ollwng ym mhen gogleddol y traeth. Ni fydd y gwaith yn effeithio ar symudiadau cychod yn yr Harbwr.

Dechreuodd y gwaith ddydd Llun a bydd yn parhau tan ddydd Iau, 13 Mawrth.

Dywedodd Harbwr Feistr Dinbych-y-pysgod, Chris Salisbury bod trwydded wedi’i sicrhau ar gyfer y gwaith carthu.

“Gofynnwn i'r cyhoedd gadw draw o ardal y gwaith a bod cŵn yn cael eu cadw ar dennyn yn ystod y cyfnod hwn," ychwanegodd Chris.

Dywedodd y Cynghorydd Rhys Sinnett, Aelod y Cabinet dros Wasanaethau Trigolion: "Rwy'n ddiolchgar i'n swyddogion am y gwaith sy'n cael ei wneud yn Harbwr Dinbych-y-pysgod - mae'r gwaith carthu hwn yn hanfodol ar gyfer gweithredu Harbwr Dinbych-y-pysgod.

“Mae amseriad y gwaith yn cael ei reoli gan y llanw ac roedd y dyddiadau'n cynrychioli'r cyfle olaf i'r gwaith gael ei wneud cyn i'r cychod gael eu gosod yn ôl yn y dŵr.”