- Cwcis sydd wir eu hangen
Cwcis sydd wir eu hangen
Mae rhai o’n cwcis yn hanfodol ac ni fydd rhannau o’r safle’n gweithio hebddynt. Mae hyn yn cynnwys cofnodi eich dewisiadau cadw cwcis.
14 Maw 2025
Mae Trafnidiaeth Cymru (TrC) a Media Cymru wedi llunio partneriaeth er mwyn rhoi rhaglen gyflymu newydd cyffrous ar waith. Bwriad y rhaglen hon yw helpu busnesau ac entrepreneuriaid yng Nghymru i ddatblygu syniadau sy'n torri tir newydd yn y sector trafnidiaeth.
A'r rhaglen 10 wythnos bellach ar agor, bydd yn darparu hyfforddiant gan arbenigwyr, dan arweiniad tîm Lab TrC ynghyd â PDR - cwmni ymgynghori ar ddylunio a chyfleuster ymchwil cymhwysol ar lefel byd eang ac yn helpu busnesau newydd i droi syniadau’n atebion, syniadau sydd â'r potensial i fynd o nerth i nerth ac yn barod ar gyfer y farchnad. Yn dilyn y lab ymchwil a datblygu, bydd cyfle i wneud cais am gyllid o hyd at £30,000 gan TrC a hyd at £50,000 gan Media Cymru.
Mae TrC yn awyddus i wella profiad, effeithlonrwydd a chynaliadwyedd cwsmeriaid ar draws ei rwydwaith trafnidiaeth trwy’r gwasanaethau arloesi pwrpasol y mae Lab tîm TrC yn ei gynnig.
Mae'r rhaglen hon yn bartneriaeth rhwng Media Cymru – consortiwm arloesi sydd wedi’i ffurfio o 22 partner sy’n arbenigo mewn arloesi yn y sector cyfryngau a ariennir gan UKRI. Ei genhadaeth yw sbarduno arloesedd trawsnewidiol yn sector cyfryngau Prifddinas-Ranbarth Caerdydd, gan ganolbwyntio ar dwf economaidd sy’n deg, yn wyrdd ac yn fyd-eang.
Am beth mae Trafnidiaeth Cymru a Media Cymru yn chwilio amdano?
Yn ogystal â phartneriaeth weithio newydd gyda Media Cymru, maent yn chwilio am unigolion all fynd i'r afael â'r meysydd canlynol:
Heriau Penodol i'r Cyfryngau fel yr amlinellwyd gan Media Cymru (rhaid eu bod wedi'i lleoli yng Nghymru ar gyfer y cynnig hwn):
- Cefnogi twristiaeth drwy'r rhwydwaith trafnidiaeth.
- Cynyddu'r defnydd o Gymraeg ar draws y rhwydwaith.
- Creu profiadau cyfrwng cymysg i wella teithiau cymudwyr.
- Hyrwyddo brand a/neu gynnig gan ddefnyddio cyfryngau newydd
- Defnyddio cyfryngau newydd i ddenu pobl i ddefnyddio'r rhwydwaith
Dywedodd Gavin Johnson, Cynhyrchydd Ymchwil a Datblygu Media Cymru:
"Pleser yw cyhoeddi ein partneriaeth newydd uchelgeisiol gyda Trafnidiaeth Cymru. Ar y cyd â’r Lab gan TrC, rydym yn dod ag arloeswyr creadigol ynghyd i ddyfeisio a thrin a thrafod profiadau a chynhyrchion newydd, hygyrch i bobl sy'n teithio ar amrywiaeth o lwybrau rhwydwaith TrC.
“Nid yn unig fydd proses arloesi y Lab gan TrC yn sbarduno amrywiaeth o syniadau sy'n barod ar gyfer y farchnad ond hefyd yn paratoi'r ffordd ar gyfer syniadau newydd ar gyfer dyfodol teithio llesol a thwristiaeth yng Nghymru.
Mae'r cydweithio hwn yn golygu gwneud newidiadau mawr, creu arferion newydd a chyflwyno cyfleoedd newydd, arloesol i'r rhwydwaith rheilffyrdd."
Heriau penodol ym maes Trafnidiaeth fel yr amlinellwyd gan Trafnidiaeth Cymru:
- Cynhyrchu Refeniw ac Effeithlonrwydd Cost
- Dod o hyd i gyfleoedd newydd i greu refeniw
- Dylunio atebion cost-effeithiol
- Defnyddio AI i wella gweithrediadau
- Newid ac Ymgysylltu Dulliau Teithio
- Annog mwy o bobl i ddefnyddio trafnidiaeth gynaliadwy
- Datblygu system drafnidiaeth integredig a chynaliadwy
- Rhagoriaeth Weithredol
- Gwella perfformiad trenau a bysiau
- Gwella diogelwch teithwyr a staff
- Cryfhau cydnerthedd hinsawdd
Pam cymryd rhan?
Dyma fanteision cymryd rhan:
- Mynediad at hyd at £30,000 o gyllid (TrC ) a £50,000 o gyllid (Media Cymru)
- Hyfforddiant Ymchwil a Datblygu Arbenigol i fireinio a datblygu syniadau
- Cymorth mentora arbenigol a chymorth i'r diwydiant
- Y cyfle i ddefnyddio eu harloesedd gyda Trafnidiaeth Cymru
Dywedodd Barry Lloyd, Pennaeth Arloesi a Datblygu Cynnyrch Newydd:
"Rwy'n edrych ymlaen at lansio carfan 6 Cyflymu Arloesedd Lab TrC, menter drawsnewidiol a gynlluniwyd i danio creadigrwydd a sbarduno syniadau arloesol ar gyfer sector trafnidiaeth a chyfryngau Cymru.
Mae'r rhaglen hon wedi'i theilwra i rymuso gweledigaeth, gan feithrin amgylchedd lle gall cysyniadau arloesol ffynnu a datblygu i fod yn atebion effeithiol.
Rwy'n edrych ymlaen at groesawu ymgeiswyr llwyddiannus i'n man cyfarfod pwrpasol ym Mhencadlys TrC, y man y cynhelir y rhaglen.”
Sut i Ymgeisio
Ceisiadau ar agor NAWR! Gall busnesau ac unigolion sydd â diddordeb ddarllen mwy am y rhaglen ac ymgeisio yma https://tfw.wales/lab/accelerator.
Hygyrchedd
Os oes gennych chi ofynion penodol a fyddai’n gwneud y broses ymgeisio’n fwy hygyrch (fel cyngor, cyfarwyddiadau neu gymorth darllen), neu os hoffech chi drafod fformatau eraill (fideo neu sain, naratif llais, ffont mawr, testun plaen neu iaith arall), anfonwch e-bost at media.cymru@caerdydd.ac.uk neu ffonio 02922 511 434.
Ymunwch â ni i wneud dyfodol trafnidiaeth Cymru yn un arloesol! i ddysgu mwy am Media Cymru, ewch i’w gwefan - https://media.cymru