Newyddion Cyngor Sir Caerfyrddin

06 Maw 2025

Sir Gâr yn nodi pum mlynedd ers y pandemig

Carmarthenshire marks five years since pandemic

Sir Gâr yn nodi pum mlynedd ers y pandemig: County Hall Yellow

Ar ddydd Sul, 9 Mawrth 2025, bydd Cyngor Sir Caerfyrddin yn ymuno â'r genedl i nodi pum mlynedd ers dechrau pandemig COVID-19. Mae'r garreg filltir hon yn cynnig cyfle i breswylwyr fyfyrio ar effaith sylweddol y pandemig ar ein bywydau, ein cymunedau a'r byd.

Fel rhan o'r Diwrnod Cenedlaethol o Fyfyrdod, bydd Neuadd y Sir yng Nghaerfyrddin yn cael ei goleuo'n felyn i anrhydeddu'r rhai a gollwyd i'r pandemig. Mae'r Cyngor yn annog pobl leol i gymryd rhan yn y munud cenedlaethol o dawelwch am hanner dydd ar 9 Mawrth, fel eiliad o fyfyrio ar y cyd.

Dywedodd y Cynghorydd Darren Price, Arweinydd Cyngor Sir Caerfyrddin:

"Roedd y pandemig yn gyfnod hynod o heriol a phoenus i bawb, ac rydym yn parhau i deimlo'r effeithiau heddiw. Wrth i ni fyfyrio ar y cyfnod hwn, mae'n bwysig cydnabod yr heriau yr ydym wedi'u hwynebu a'r cryfder yr ydym wedi'i ddangos fel cymuned."

Mae'r digwyddiad blynyddol hwn yn amser i gofio ac anrhydeddu'r rhai a gollwyd, cydnabod ymrwymiad ein gweithwyr allweddol, a myfyrio ar gryfder ac undod ein cymunedau.

Gwybodaeth Gyswllt

Cyngor Sir Caerfyrddin | Carmarthenshire County Council
pressoffice@carmarthenshire.gov.uk