Newyddion Cyngor Sir Caerfyrddin

06 Maw 2025

Dathlu Diwrnod y Llyfr gyda Llyfrgelloedd Sir Gâr

Celebrating World Book Day with Carmarthenshire Libraries

Dathlu Diwrnod y Llyfr gyda Llyfrgelloedd Sir Gâr: Dr Ffion Jones Workshop

Mae llyfrgelloedd Cyngor Sir Gâr wedi bod yn ymuno â'r dathliadau ar gyfer Diwrnod y Llyfr eleni ar 6 Mawrth.

Mae'r digwyddiad byd-eang blynyddol yn annog darllen ac yn hyrwyddo pwysigrwydd llythrennedd ar gyfer pob oedran.

I ddathlu'r diwrnod, daeth cwmni theatr Mewn Cymeriad â straeon yn fyw drwy berfformiadau yn llyfrgelloedd Caerfyrddin a Rhydaman ar gyfer ysgolion cynradd lleol. Bu disgyblion Ysgol y Dderwen ac Ysgol Gymraeg Rhydaman yn mwynhau straeon am gymeriadau'r Mabinogi.

Yn llyfrgelloedd Llanelli a Chaerfyrddin, cymerodd disgyblion o Ysgol yr Hendy, Ysgol Dafen ac Ysgol y Model ran mewn gweithdai 'Sêr y Silffoedd' gyda'r awduron Siôn Tomos Owen, Eloise Williams a Dr Ffion Jones. Mewn partneriaeth â Chyngor Llyfrau Cymru, mae'r prosiect hwn yn helpu disgyblion i archwilio eu creadigrwydd drwy ddysgu am greu cymeriadau, drwy emosiynau, gweithredoedd a chefndir. Yn ystod y gweithdai, rhannodd yr awduron eu teithiau personol i fod yn awduron, gan ddatgelu'r hyn a'u hysgogodd i fynd ar drywydd ysgrifennu, ac fe wnaethant gyflwyno eu casgliadau o lyfrau.

Fel rhan o'r dathliadau eleni, rhoddodd llyfrgelloedd Sir Gaerfyrddin gyfanswm o 2,385 o gopïau o lyfrau Cymraeg a Saesneg i ysgolion, meithrinfeydd a chanolfannau teulu lleol. Cafodd plant oed cynradd gyfle hefyd i dderbyn llyfr am ddim drwy gofrestru gyda'u llyfrgell leol.

Dywedodd y Cynghorydd Hazel Evans, yr Aelod Cabinet dros Adfywio, Hamdden, Diwylliant a Thwristiaeth:

“Mae Diwrnod y Llyfr yn gyfle gwych i ni ysbrydoli'r genhedlaeth nesaf o ddarllenwyr ac awduron. Mae'n fraint cael cefnogi ein hysgolion lleol drwy'r llyfrgelloedd i wneud darllen yn brofiad hwyliog a diddorol i bob oedran.”

Gwybodaeth Gyswllt

Cyngor Sir Caerfyrddin | Carmarthenshire County Council
pressoffice@carmarthenshire.gov.uk