Newyddion Cyngor Sir Caerfyrddin

13 Maw 2025

Cyngor Ieuenctid Sir Gâr yn dathlu Wythnos Croeso i Dy Bleidlais

Carmarthenshire’s Youth Council celebrate Welcome to Your Vote Week

Cyngor Ieuenctid Sir Gâr yn dathlu Wythnos Croeso i Dy Bleidlais: Carmarthenshire Youth Council

Mae Cyngor Sir Gâr yn cymryd rhan yn Wythnos Croeso i Dy Bleidlais, sef menter dan arweiniad y Comisiwn Etholiadol, gyda'r nod o roi'r wybodaeth, yr hyder a'r ddealltwriaeth sydd eu hangen ar bobl ifanc i gymryd rhan lawn yn y broses ddemocrataidd.

Nod Wythnos Croeso i Dy Bleidlais, sy'n cael ei chynnal rhwng 10 Mawrth a 16 Mawrth 2025, yw helpu pobl ifanc i ddeall yn well y rôl y gallant ei chwarae wrth lunio dyfodol eu cymunedau, gan eu hannog i ddod yn ddinasyddion gweithgar a gwybodus. Mae'r thema eleni, "Bod yn Wybodus a Chymryd Rhan," yn pwysleisio pwysigrwydd cael gwybodaeth ddibynadwy am wleidyddiaeth, democratiaeth ac etholiadau, a chymryd y camau cyntaf i gymryd rhan yn lleol.

Fel rhan o'r ymgyrch hon, cynhaliodd Cyngor Ieuenctid Sir Gâr y Parti Demos Kratos ar 10 Mawrth 2025, a oedd yn dathlu democratiaeth ac yn grymuso pobl ifanc i gymryd rhan yn y broses etholiadol drwy gyfres o weithgareddau hwyliog a rhyngweithiol.

Cymerodd y cyfranogwyr ran mewn dadl fywiog, mewn dau dîm, i drafod safbwyntiau gwahanol ar bwnc a ddewiswyd. Fe wnaethant hefyd archwilio cysyniadau gwleidyddol allweddol drwy gemau rhyngweithiol gan y Comisiwn Etholiadol, gan gynnwys Bingo, Cywir neu Anghywir, a Phwy sy'n Rheoli Beth. I gloi'r digwyddiad, cymerodd y ddau dîm ran mewn her gorfforol hwyliog, gan ddefnyddio'u cyrff mewn modd creadigol i sillafu'r gair 'democratiaeth’.

Dywedodd y Cynghorydd Glynog Davies, Aelod Cabinet Cyngor Sir Gâr dros Addysg a'r Gymraeg:

“Rwy'n falch iawn o weld cymaint o frwdfrydedd wrth i bobl ifanc Sir Gâr gymryd rhan yn Wythnos Croeso i Dy Bleidlais. Roedd y Parti Demos Kratos yn gyfle gwych i'n hieuenctid gymryd rhan yn y broses ddemocrataidd a deall pwysigrwydd eu lleisiau wrth lunio eu dyfodol.”

Mae rhagor o wybodaeth am Wythnos Croeso i Dy Bleidlais yma ar gael yma: https://www.electoralcommission.org.uk/cy/wythnos-croeso-i-dy-bleidlais-2025

Gwybodaeth Gyswllt

Cyngor Sir Caerfyrddin | Carmarthenshire County Council
pressoffice@carmarthenshire.gov.uk