Newyddion Cyngor Sir Caerfyrddin

05 Maw 2025

Ymgynghoriad Cyhoeddus - Strategaeth Rhandiroedd a Thyfu Cymunedol Ddrafft

Draft Allotment and Community Growing Strategy Public Consultation

Ymgynghoriad Cyhoeddus - Strategaeth Rhandiroedd a Thyfu Cymunedol Ddrafft: tomatoes

Gwahoddir trigolion Sir Gaerfyrddin i roi adborth ar y Strategaeth Rhandiroedd a Thyfu Cymunedol Ddrafft a ariannwyd ar y cyd gan Gronfa Ffyniant Gyffredin Llywodraeth y DU a Chyngor Sir Caerfyrddin.

Ers amser maith, mae Sir Gâr wedi cael ei galw'n 'Gardd Cymru’. Yn ystod y blynyddoedd diwethaf, mae diddordeb mewn cyfleoedd tyfu bwyd lleol wedi cynyddu. Mae corff o dystiolaeth sy'n cefnogi'r syniad y gall tyfu eich cynnyrch eich hun fod o fudd i bobl a'r blaned, boed hynny drwy wella llesiant corfforol a meddyliol neu drwy gyfyngu ar nifer y milltiroedd bwyd ar ein platiau.

Yn gydrannau cynhenid Seilwaith Gwyrdd a Glas, mae Rhandiroedd a Mannau Tyfu Cymunedol yn atebion pwysig sy'n seiliedig ar le i hyrwyddo dewisiadau ffordd o fyw egnïol ac atal problemau iechyd a llesiant ymhlith ein cymunedau. 

Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Faterion Gwledig, Cydlyniant Cymunedol a Pholisi Cynllunio - y Cynghorydd Carys Jones, a'r Aelod Cabinet dros Newid Hinsawdd, Datgarboneiddio a Chynaliadwyedd - y Cynghorydd Aled Vaughan Owen:

"Rydym yn falch o gyflwyno'r Strategaeth Rhandiroedd a Thyfu Cymunedol ar gyfer Sir Gaerfyrddin. Dyma gam hanfodol tuag at feithrin dyfodol gwyrddach, iachach a mwy cynaliadwy i'n cymunedau. Mae'r strategaeth yn amlinellu ein gweledigaeth ar y cyd ar gyfer creu mannau hygyrch a ffyniannus lle gall pobl gysylltu â natur, tyfu eu bwyd eu hunain a chymryd rhan mewn gweithgareddau sy'n cyfrannu at eu llesiant.”

Cliciwch yma i ddweud eich dweud.

Ni ddylai'r arolwg gymryd mwy na 15 munud i'w gwblhau ac mae'n fyw tan 21 Mawrth 2025.

Gwybodaeth Gyswllt

Cyngor Sir Caerfyrddin | Carmarthenshire County Council
pressoffice@carmarthenshire.gov.uk

Lawrlwythiadau