- Cwcis sydd wir eu hangen
Cwcis sydd wir eu hangen
Mae rhai o’n cwcis yn hanfodol ac ni fydd rhannau o’r safle’n gweithio hebddynt. Mae hyn yn cynnwys cofnodi eich dewisiadau cadw cwcis.
18 Maw 2025
Ceir datblygiad yn y cynigion i wneud gwelliannau sylweddol i deithio cynaliadwy yng nghanol dinas Casnewydd.
Nodwyd cyfres o welliannau i orsaf drenau Casnewydd, Queensway a chylchfan Old Green yn y cynlluniau ac maent yn cynnwys:
- Cyfnewidfa drafnidiaeth gyhoeddus newydd yng ngorsaf drenau Casnewydd i gysylltu gwasanaethau trên a bws, gan greu canolbwynt ar gyfer teithio cynaliadwy o fewn yr orsaf
- Priffordd ddiwygiedig yn lle cylchfan Old Green, gyda lonydd â blaenoriaeth i fysiau yn ogystal â llwybrau teithio llesol wedi’u symleiddio sy’n fwy cyfleus a deniadol i’r holl ddefnyddwyr
- Cyfleoedd i wella tir y cyhoedd, gan gynnwys yr ardaloedd sy’n amgylchynu Castell Casnewydd. Mae’r cynigion yn cynnwys argymhellion allweddol gan y Comisiwn Trafnidiaeth De-ddwyrain Cymru, a goruchwylir y rhain gan yr Uned Cyflenwi Burns.
Mae’r uned, a arweinir gan Trafnidiaeth Cymru mewn partneriaeth â Llywodraeth Cymru ac awdurdodau lleol Casnewydd, Sir Fynwy a Chaerdydd, yn datblygu rhwydwaith teithio cynaliadwy ar draws de-ddwyrain Cymru.
Cynhaliwyd ymgynghoriad cyhoeddus ar y cynlluniau yng ngwanwyn 2023 a derbyniwyd mwy na 2,400 o ymatebion ynghylch hyn. Cyhoeddwyd crynodeb o’r ymatebion heddiw mewn adroddiad ymgynghori.
Ers i’r ymgynghoriad cau, mae partneriaid yr Uned Cyflenwi Burns wedi bod wrthi’n adolygu’r adborth ac asesu nifer o welliannau arfaethedig i’r cynlluniau gan brofi eu dichonoldeb.
Mae’r Uned Cyflenwi Burns wedi bod yn adolygu rhai elfennau o’r cynlluniau gwreiddiol ar y cyd er mwyn cynnwys yr adborth gwerthfawr a gasglwyd yn ystod yr ymgynghoriad. Mae hyn yn cynnwys sut i drin y murluniau diwylliannol pwysig yn Old Green yn ogystal â newid dyluniai’r cynlluniau i gynnwys sylwadau gan ddarparwyr trafnidiaeth a busnesau sy’n ymwneud ag economi’r nos ar y Stryd Fawr ac o’i hamgylch.
Yn y cyfnod nesaf, byddwn yn parhau i ymgysylltu rhanddeiliaid a phreswylwyr â’r cynlluniau, a sicrhau bod gennym gyllid gan y llywodraeth er mwyn cyflawni’r cynlluniau i wella teithio cynaliadwy.
“Mae Old Green yn rhan annatod o’r rhwydwaith teithio yng Nghasnewydd ac mae’n bwysig ein bod yn gwneud pob dim yn iawn,” dywedodd y Cynghorydd Rhian Howells, sef aelod o’r cabinet Cyngor Dinas Casnewydd ar gyfer seilwaith ac asedau.
“Os bydd y cynigion hyn yn mynd yn eu blaen, byddant yn hwyluso’r gallu i deithio o amgylch Casnewydd a byddant yn cysylltu Castell Casnewydd yn well â chanol y ddinas.”
“Mae’r adborth defnyddiol yr ydyn ni wedi ei dderbyn gan bobl wedi ein galluogi i wella’r cynlluniau er mwyn iddynt gwrdd ag anghenion y bobl yn well.
Dywedodd Prif Swyddog Cynllunio Trafnidiaeth a Datblygu Cymru, Geoff Ogden: “Mae gan y cynigion hyn y potensial i wella teithio yng Nghasnewydd yn sylweddol gan ddarparu cysylltiadau gwell rhwng trenau a bysiau a gwella llwybrau ar gyfer cerdded, olwynio a seiclo. Bydd helpu pobl i deithio yn y ffyrdd hyn yn gwneud Casnewydd yn le gwyrddach a mwy iach.
“Hoffem ddiolch i bawb a wnaeth gymryd yr amser i roi adborth yn yr ymgynghoriad a helpu i lywio’r cynlluniau pwysig hyn er lles y ddinas.”
Nodiadau i olygyddion
Yn 2019, gwnaeth y Comisiwn Trafnidiaeth De-ddwyrain Cymru, a gadeiriwyd gan Arglwydd Burns, archwilio ffyrdd cynaliadwy o ddod i’r afael â thagfeydd ar yr M4 yn ne-ddwyrain Cymru.
Gwnaeth canfyddion Arglwydd Burns ddangos fod diffyg opsiynau teithio eraill i’r draffordd ac roedd angen opsiynau teithio newydd sylweddol.
Sefydlwyd yr Uned Cyflenwi Burns yn 2021 er mwyn goruchwylio gwaith i gyflawni’r 58 o argymhellion a gyhoeddwyd gan y comisiwn ym mis Tachwedd 2020 a oedd oll yn ffocysu ar gefnogi pobl mewn teithio mewn ffordd fwy cynaliadwy.
Gellir dod o hyd i ragor o wybodaeth ynglŷn â gwaith yr uned yma Uned Cyflenwi Burns | TrC