Newyddion Cyngor Sir Caerfyrddin

26 Chw 2025

Dathlu Dydd Gŵyl Dewi yn Sir Gâr

Celebrating St David’s Day in Carmarthenshire

Dathlu Dydd Gŵyl Dewi yn Sir Gâr: Dydd Gwyl Dewi-2

Mae Cyngor Sir Caerfyrddin yn dathlu Dydd Gŵyl Dewi, 1 Mawrth 2025, gyda digwyddiadau ar hyd a lled y sir drwy gydol mis Chwefror a mis Mawrth. Bydd Baner Dewi Sant yn cael ei chodi ym mhrif adeiladau'r Cyngor yn Rhydaman, Caerfyrddin, a Llanelli rhwng 28 Chwefror a 3 Mawrth, gyda Neuadd y Sir yn cael ei goleuo mewn coch a gwyrdd ar 1 Mawrth.

Ar 1 Mawrth, bydd arddangosfa flodau a Chennin Pedr i'w gweld ym Marchnad Caerfyrddin, gyda gweithgareddau i'r teulu yn cael eu darparu gan People Speak Up. Bydd Marchnad Llanelli hefyd yn cael ei haddurno â garlantau a blychau blodau, gyda pherfformiadau gan gôr Meibion Elli a chantorion y Music Factory gan ddechrau am 11am. Ewch i'r marchnadoedd i gasglu eich nwyddau Dydd Gŵyl Dewi.

Mae Theatrau Sir Gâr wedi trefnu cyngherddau dathlu Dydd Gŵyl Dewi yn eu lleoliadau. Cyflwynir y digwyddiadau hyn mewn partneriaeth â Loud Applause Productions a byddant yn cynnwys perfformwyr talentog o Gymru:

Cyngerdd Dathlu Gŵyl Dewi Rhydaman

Theatr y Glowyr

28 Chwefror, 7pm

£14.50 | £12.50

Cyngerdd Dydd Gŵyl Dewi

Theatr y Ffwrnes

1 Mawrth, 7pm

£18 | £16

Twmpath Dydd Gŵyl Dewi gyda Jac y Do

Theatr y Ffwrnes

2 Mawrth, 2:30pm

£14

Gŵyl Bwyd a Diod Dydd Gŵyl Dewi ym Mharc Gwledig Pen-bre

Ar ddydd Sadwrn a dydd Sul, 1 a 2 Mawrth, mae Parc Gwledig Pen-bre yn eich gwahodd i Ŵyl Bwyd a Diod. Mwynhewch fwyd artisan a bwyd stryd, arddangosiadau coginio byw gan Georgie Grasso (enillydd Great British Bake-Off), Nerys Howells, a'r pen-cogyddion Saku Chandrasekara, Michelle Evans-Fecci, a Matt O'Doherty.

Amgueddfeydd Sir Gaerfyrddin

Mae Amgueddfa Parc Howard yn Llanelli, Amgueddfa Sir Gaerfyrddin yn Abergwili a'r Amgueddfa Cyflymder ym Mhentywyn yn cynnal gweithgareddau i deuluoedd eu mwynhau drwy gydol hanner tymor ac ar Ddydd Gŵyl Dewi. Gallwch gael rhagor o wybodaeth yma

Llyfrgelloedd Sir Gaerfyrddin

Dyma'r gweithgareddau Dydd Gŵyl Dewi sy'n digwydd yn y llyfrgelloedd:

Caerfyrddin:

27 Chwefror, 11am-12pm - Crefft Cennin Pedr Gleiniog (18+)

Rhydaman:

1 Mawrth, 10am-12pm - Creu Cardiau Dydd Gŵyl Dewi

Digwyddiadau eraill sy'n digwydd ar draws Sir Gâr:

Diwrnod Mawreddog Dydd Gŵyl Dewi Llanelli: Ar 1 Mawrth, mwynhewch gerddoriaeth fyw, stondinau bwyd a phaentio wynebau yng Nghanolfan Sant Elli a Marchnad Llanelli rhwng 11am a 4pm.

Dathliad Dydd Gŵyl Dewi a Marchnad Llanymddyfri: Mwynhewch y bwyd stryd, marchnad y ffermwyr, y gerddoriaeth fyw, a'r cystadlaethau pice ar y maen a bara brith yn Llanymddyfri (1 Mawrth).

Gŵyl y Daffodil Caerfyrddin: Dathliad Dydd Gŵyl Dewi (1 Mawrth) yng Nghaerfyrddin. Mae'r Parêd yn gadael am 11am o Eglwys San Pedr, gyda pharcio am ddim ar gael.

Menter Dinefwr: Cynhelir cyngerdd gan Bois y Castell, gyda Tecwyn Ifan, yn Neuadd y Farchnad yn Llandeilo ar 1 Mawrth, 7pm.

Menter Cwm Gwendraeth: Ar 7 Mawrth, mwynhewch gyngerdd yn Neuadd Pontyberem a bydd cinio cawl i'r henoed yn cael ei gynnal yn y Cwtsh ym Mhontyberem ar 3 Mawrth.

Amgueddfa Wlân Cymru, Dre-fach Felindre: Ewch i Amgueddfa Wlân Cymru ar 8 Mawrth i fwynhau diwrnod o grefftau, dawnsio clocsiau, ac ymddangosiadau arbennig gan Magi Ann. Mae mynediad i'r digwyddiad hwn yn rhad ac am ddim a bydd yn digwydd rhwng 10am a 3pm.

Dywedodd y Cynghorydd Hazel Evans, Aelod Cabinet dros Adfywio, Hamdden, Diwylliant a Thwristiaeth:

"Mae Dydd Gŵyl Dewi yn gyfle gwych i'n cymunedau ddod at ei gilydd ac anrhydeddu ein nawddsant, Dewi Sant. Mae Sir Gaerfyrddin wrth ei bodd o gael dathlu gydag amrywiaeth o ddigwyddiadau drwy gydol yr wythnos ac rwyf yn annog pawb i ymuno yn y dathliadau lleol."

Ewch i wefan Darganfod Sir Gâr i gael rhagor o wybodaeth am ddigwyddiadau sy'n cael eu cynnal ar draws y sir.

Gwybodaeth Gyswllt

Cyngor Sir Caerfyrddin | Carmarthenshire County Council
pressoffice@carmarthenshire.gov.uk