Newyddion Cyngor Sir Caerfyrddin

28 Chw 2025

Cyngor yn cymeradwyo Strategaeth Gyllideb 2025-26

Council approves 2025-26 Budget Strategy

Cymeradwyodd Cyngor Sir Caerfyrddin gynnydd o 8.9% yn y Dreth Gyngor a gostyngiadau mewn gwariant o fwy nag £8m yn ystod cyfarfod i osod ei Strategaeth Gyllideb, ddydd Mercher, 26 Chwefror 2025.

Cafodd cynnig gwreiddiol gan y Cabinet o 9.75% ei ostwng i 8.9% yn dilyn mân addasiadau yng nghyllid y Cyngor oherwydd cyllideb derfynol Llywodraeth Cymru, ardoll Brigâd Dân ychydig yn is, a dyraniad o £0.5m o'r gyllideb wrth gefn.

Dywedodd y Cynghorydd Alun Lenny, yr Aelod Cabinet dros Adnoddau:

"Y gyllideb hon yw'r un fwyaf heriol ers blynyddoedd lawer. Mae'r Cyngor hwn dros £150m ar ei golled mewn termau real nag yr oeddem ddegawd yn ôl. Mae hynny'n golygu bod £150m yn llai i'w wario ar wasanaethau hanfodol fel gofal cymdeithasol, addysg, priffyrdd ac yn y blaen.

Efallai y bydd llawer o bobl yn synnu o glywed mai dim ond 16% o incwm y Cyngor sy'n dod o'r Dreth Gyngor. Daw'r rhan fwyaf o'n cyllid o Lywodraeth Cymru, sydd yn ei dro yn dibynnu ar grant bloc gan Lywodraeth y DU. Fel pob cyngor arall, rydym yn wynebu cyfnod heriol iawn wrth i'r pwysau enfawr ar wariant cyhoeddus a gwasanaethau barhau. 

“Derbyniodd Cyngor Sir Caerfyrddin godiad o 4.1% yn y Grant Cynnal Refeniw gan Lywodraeth Cymru, sydd, o'i ychwanegu at drosglwyddiadau grant, werth tua £25m. Er bod hwn yn swm sylweddol, mae'n llai na hanner y £55m sydd ei angen ar y Cyngor Sir i gynnal gwasanaethau ar lefel dderbyniol. Mae hyn yn cynnwys ateb y galw uwch a chynyddol am wasanaethau oedolion a phlant, ynghyd â chostau ychwanegol sydd y tu hwnt i'n rheolaeth ni - fel chwyddiant, setliadau cyflog, a newidiadau Yswiriant Gwladol y Canghellor.

“O ganlyniad i gyllideb derfynol Llywodraeth Cymru a gyhoeddwyd ar 20 Chwefror 2025, ynghyd â chymryd hanner miliwn o bunnoedd o'n cronfa wrth gefn, cynigodd y Cabinet godiad yn y Dreth Gyngor o 8.9%. Mae hyn yn llawer mwy nag y byddem wedi'i hoffi yn y dyddiau anodd hyn, ond fel Awdurdod Lleol, mae'n rhaid i ni osod cyllideb gyfreithiol sy'n cadw cydbwysedd rhwng codi'r Dreth Gyngor a diogelu'r gwasanaethau hanfodol y mae ein trigolion yn dibynnu arnynt.

“Yr ergyd fwyaf annisgwyl i ni wrth i ni osod ein Cyllideb oedd y newid a wnaeth Canghellor y Trysorlys i gyfraniadau Yswiriant Gwladol gan gyflogwyr. Er yr addewid am lwfans ar gyfer gwasanaethau cyhoeddus yn hwyrach eleni, rydym yn amcangyfrif y byddwn yn parhau i fod £3.5m ar ein colled. Oni bai am hyn, byddai cynnig y Dreth Gyngor wedi bod yn gynnydd o 5.4% nid 8.9%.

“Wedi'i osod yn erbyn cyllid annigonol a'r gost ychwanegol o ran Yswiriant Gwladol, yw'r galw cynyddol am wasanaethau. Er gwaethaf y pwysau presennol, mae Cyngor Sir Caerfyrddin yn rhoi £11m yn ychwanegol i ofal oedolion a phlant, lle mae'r pwysau'n aruthrol. Mae'r weinyddiaeth hon yn benderfynol o ddarparu ar gyfer lles cenedlaethau'r dyfodol yn Sir Gaerfyrddin drwy hefyd ddiogelu cyllid ar gyfer ysgolion. Ein plant yw ein buddsoddiad mwyaf fel cymdeithas.

“Ar nodyn cadarnhaol, mae gostyngiad mewn costau tanwydd, yn dilyn cynnydd enfawr ddwy flynedd yn ôl oherwydd y rhyfel yn yr Wcrain, wedi arbed £1.2m ychwanegol i'r Cyngor ar ben y £1m a ragwelir. Mae hyn wedi ein galluogi i ymateb i'r ymgynghoriad cyhoeddus drwy waredu’r ddau gynnig mwyaf amhoblogaidd, sef cau toiledau cyhoeddus os na drosglwyddir yr asedau, a chynnydd o 10% mewn taliadau parcio. Bu i fwy na 2,900 o bobl rannu eu barn, ac rwy'n ddiolchgar i bawb a gymerodd ran yn yr ymgynghoriad neu a ymatebodd i'r arolygon. O'r ymatebion a gafwyd, teg yw dweud bod pobl, ar y cyfan, yn sylweddoli bod yn rhaid gwneud dewisiadau anodd."

Gwybodaeth Gyswllt

Cyngor Sir Caerfyrddin | Carmarthenshire County Council
pressoffice@carmarthenshire.gov.uk