English icon English

Prif Weinidog Cymru Mark Drakeford yn gweithio ar y trên ar ei ffordd i gwrdd ag arweinwyr y byd yng nghynhadledd hinsawdd y Cenhedloedd Unedig, COP26, yn ddiweddarach heddiw

First Minister of Wales Mark Drakeford works on the train ready to meet world leaders at UN climate conference, COP26, later today.

Cychwynnodd y Prif Weinidog ar y daith saith awr o orsaf ganolog Caerdydd y bore yma.

Dywedodd Prif Weinidog

"Trwy gydweithio a chymryd camau ar y cyd gallwn fod yn rhan o blaned iach a theg. Yn Glasgow, byddwn yn dangos bod Cymru'n barod i chwarae ei rhan. Efallai ein bod yn wlad lai ond rydyn ni’n cyflawni ar lefel uwch – rydyn ni ar flaen y gad yn rhyngwladol ym maes ailgylchu a ni oedd y wlad gyntaf yn y byd i ddatgan argyfwng hinsawdd.

"Fe roddodd Cymru bŵer i’r chwyldro diwydiannol ond rydyn ni nawr am weld dyfodol sy'n cael ei bŵer drwy ynni adnewyddadwy. Ni yw'r unig wlad i ymgorffori Deddf Cenedlaethau'r Dyfodol yn y gyfraith, sy'n golygu bod yn rhaid i unrhyw benderfyniadau sy’n cael eu gwneud gan y llywodraeth heddiw ystyried yr effaith y byddant yn ei chael ar ein plant a'n hwyrion, a phob cenhedlaeth sy'n dilyn. Mae llawer mwy i'w wneud o hyd, a dyna pam rwy'n edrych ymlaen at ddysgu oddi wrth eraill yn COP26."