Skip to main content

Welcoming six new Welsh-speakers at our Integrated Control Centre

07 Rhag 2022

Roeddem yn falch iawn o recriwtio chwe chydweithiwr newydd Cymraeg eu hiaith i'n Canolfan Reoli Integredig (CRI) fis diwethaf.

Bydd ein dechreuwyr newydd dwyieithog yn ateb unrhyw alwadau pwynt cymorth, galwadau brys yn ein lifftiau, a'r pwyntiau cymorth sydd ar gael yn y cyfleusterau toiledau sy'n cael eu gosod ar hyn o bryd ar hyd ein Llinellau Craidd y Cymoedd (LlCyC).

Yn ogystal â'n pwyntiau cymorth i gwsmeriaid, nododd tîm rheoli Canolfan Weithredu Rheilffyrdd Cymru (CWRC) hefyd y cyfle i wella'r dechnoleg sy'n cael ei defnyddio yn y ganolfan ar gyfer gwasanaethau prif linell. Bydd ein cymorth i gwsmeriaid wrth law, ynghyd â'n huwchraddiadau technolegol, nawr yn ein galluogi i ddarparu cefnogaeth 24/7 i'n cwsmeriaid Cymraeg a Saesneg.

Cafodd ein cydweithwyr newydd a wnaeth sicrhau'r rolau gyfweliad â chwestiynau Cymraeg a Saesneg i brofi eu cyfathrebu llafar a'u gallu i drin gwybodaeth yn y ddwy iaith ar yr un pryd. Y rolau hyn yw'r rolau gweithredol cyntaf un gyda sgiliau iaith Gymraeg wedi'u rhestru'n feini prawf hanfodol, ac rydyn ni'n gobeithio hysbysebu mwy ohonynt cyn hir.

I glywed gan y cydweithwyr newydd yn uniongyrchol, edrychwch ar y fideo isod:

Mae cefnogi diwylliant Cymreig yng Nghymru yn flaenoriaeth gennym ni, felly mae'n bwysig bod ein gwasanaethau a'n gweithgareddau yn hybu ac yn hwyluso'r defnydd o'r iaith Gymraeg a diwylliant ar draws Cymru gyfan. 

 

Llwytho i Lawr